O Hyn Ymlaen (Tnt v Llwybr Cyhoeddus)
- 流派:Pop 流行
- 语种:英语
- 发行时间:2012-09-17
- 类型:录音室专辑
- 歌曲
- 时长
简介
Mi gwrddais i Colin yn Stiwdio Orange Sounds, a'r tro diwethaf imi ei weld roedd y ddau ohonom ni wedi'n gorchuddio hefo mwd ac yn cerdded oddi ar gae rygbi (lle roedd Bangor yn chwarae cyn i Tesco gael ei adeiladu), doeddwn i ddim wedi sylweddoli pwy oedd o nes inni olchi'r mwd oddi ar ein wynebau- mae ganddo lais ardderchog ac mae'n hanfodol ei glywed o'n perfformio'n fyw! Diolch i Mam a Dad am roi i fyny hefo'r holl dwrw ac am gael gadael yr holl offerynnau yn y ty. Diolch i'm chwaer Wendy - ddaru hi erioed sylwi mod i wedi dwyn sengl "Free" ac un Marc Bolan- T Rex hefyd! Diolch hefyd i mrawd David oedd yn berchen ar albymau'r Beatles a Band on the Run, Paul McCartney ac Imagine, John Lennon.Dwi'n caru fy ngwraig Megan a fy merched Jessica a Llio yn fawr iawn.. Parch mawr hefyd i Jaci Williams a diolch i Hefin Huws a Gari Edwards am adael inni chwarae eu caneuon. Diolch i Geraint Jarman am ffonio a chytuno inni berfformio "Rhywbeth Bach yn Poeni". Diolch i Andy (Beamish) Jones am adael imi chwarae "Smoke on the water" hefo'i fand; ac yn olaf, diolch o galon i'r canwr ardderchog Alistair James a'r peirianydd sain rhagorol, Russ Hayes o Orange Studios ym Mhenmaenmawr. Diolch i Colin Roberts a Ray Brooke am eu cyfraniad ar y CD yma. Mae'r cerddorion a’r canwyr ar y CD yn rhai gorau yng Nghymru yma. Mae wedi bod yn braint ac yn anrhydedd i gael nhw i chwarae ar y CD. Dwi wedi gwneud fy nghorau efo'r albwm gan obeithio y bydd o'n plesio.