- 歌曲
- 时长
简介
Sengl gyntaf SORELA gafodd ei rhyddhau ar RECORDIAU CÔSH ar y cyntaf o Ragfyr 2015. Cân nadoligaidd wedi’i hysgrifennu gan YWS GWYNEDD a’i recordio yn STIWDIO FERLAS gan Richard Roberts. SORELA Ffurfiodd y dair chwaer o Aberystwyth, SORELA yn 2013 wedi blynyddoedd o ganu harmoni gyda’i Mam, Linda Griffiths. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn lwyddianus a phrysur i SORELA, gan gynnwys rhyddhau CD ar y cyd gyda’i Mam, Olwyn y Ser (RECORDIAU FLACH), wythnos brysur yn ‘Steddfod Meifod gan gynnwys perfformio cân wreiddiol yn y Noson Lawen. Dyma’i sengl gyntaf ac mae nhw wrthi’n casglu caneuon ar gyfer eu CD gyntaf flwyddyn nesa.